Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

 

 

Pwynt Craffu Technegol: Ymateb

Mewn cysylltiad â’r pwynt craffu technegol, mae gwall teipograffyddol yn yr offeryn fel y’i nodwyd yn yr adroddiad. Rydym yn ceisio cywiro’r gwall hwn gyda Chofrestrydd yr OSau drwy gyfrwng slip cywiro i’r offeryn.

 

Pwyntiau Craffu ar Rinweddau: Ymateb

Mae’r pwynt craffu ar rinweddau cyntaf yn ymwneud â chymhwystra personau sy’n byw gyda dinesydd perthnasol o Affganistan mewn perthynas sy’n debyg i briodas neu bartneriaeth sifil.

Mae’r Rheoliadau yn rhoi effaith, yn gywir, i bolisi cyfredol Llywodraeth Cymru yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan. Mae’r drafodaeth honno yn parhau a bydd cymhwystra dinasyddion Affganistan i gael cymorth i fyfyrwyr yn cael ei adolygu, pan fo’n angenrheidiol, o ganlyniad i’r drafodaeth honno.

Mae’r ail bwynt craffu ar rinweddau yn ymwneud â’r cyfeiriad at “myfyriwr cymwys” ym mharagraff newydd 13F o Atodlen 4 i’r Rheoliadau. Gwall teipograffyddol yw hwnnw. Dylai’r cyfeiriad fod at “myfyriwr ôl-raddedig cymwys”. Bydd y gwall hwn yn cael ei gywiro yn y set nesaf o Reoliadau diwygio sy’n briodol, a disgwylir y caiff y Rheoliadau hynny eu gwneud ym mis Mehefin neu ym mis Gorffennaf eleni.

Mae’r pwynt craffu ar rinweddau olaf yn ymwneud â phwynt yr adroddwyd arno yn flaenorol mewn cysylltiad â’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” yn Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021. Gwnaed diwygiad i ymdrin â’r pwynt hwnnw yn Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/49 (Cy. 18)). Gosodwyd y Rheoliadau hynny gerbron y Senedd ar 19 Ionawr.